17 June 2024

RCSLT responds to announcement of new permanent National Speech, Language and Communication Co-ordinator within Welsh Government and successor plan to ‘Talk with Me’

RCSLT yn ymateb i’r cyhoeddiad am Gydlynydd Lleferydd, Iechyd a Chyfathrebu Cenedlaethol newydd parhaol o fewn Llywodraeth Cymru

Members in Wales have campaigned tirelessly for a strategic approach to speech, language and communication within the early years. We were delighted when in 2020 Welsh Government published the Talk With Me Speech, Language and Communication delivery plan 2020-22 which aimed to raise awareness of the importance of speech, language and communication needs (SLCN) and ensure that interventions were delivered universally at the point of need.  Welsh Government also committed to fund the secondment of two speech and language therapists on a job-share arrangement to drive forward the strategy delivery as National Speech, Language and Communication Co-ordinators.

The Talk with Me plan has been held in high regard both within Wales and further afield.

Highlights of the plan include:

  1. The Talk with Me publicity campaign which included television adverts and a social media campaign co-produced with our target audience of families and practitioners has been very successful. Th e campaign resulted in increased awareness of the importance of speech, language and communication (SLC) skills and how to support SLC development, with 62% of parents and carers surveyed agreeing with the statement: “I know more about why it’s important to talk with my baby or child after seeing the campaign”.
  2. The Talk With Me website has become the go-to site for parents and professionals in Wales to access evidence based information on SLC and includes a range of resources such as top tips, factsheets and information on ages and stages.
  3. The development of the All Wales SLC Training pathway for early years practitioners and bespoke training package for health visitors co-designed with health visiting colleagues in Wales.
  4. The review of SLCN interventions at universal, population and targeted levels has enabled Welsh Government to prioritise the development of Welsh resources for practitioners and families, based on the best evidence
  5. £1.5m funding secured for the development of a new fit for purpose bilingual screening tool to ensure children who need additional support are identified early and additional support put in place.

Due to the success of the plan and the impact of the work of speech and language therapists in government, at our meeting with the Minister for Mental Health and Early Years on 15 May 2024, Jayne Bryant MS informed us that Welsh Government would shortly recruit for a permanent National Speech, Language and Communication Co-ordinator for Babies, Children and Young People. You can view the job role on the Welsh Government website.

Pippa Cotterill, Head of Wales Office said:

“The Talk with Me plan is the first cross-government plan to raise awareness of the importance of speech, language and communication needs in the UK and is regularly held up as an example of good practice by the RCSLT. We are hugely proud of the successes of the plan thus far and wish to pay tribute to the inspiring leadership of National Speech, Language and Communication Co-ordinators and speech and language therapists, Catherine Pape and Claire Butler.  We also wish to thank the Minister and civil servants for their ongoing commitment to SLC and look forward to working with the new postholder on the next iteration of Talk With Me.”

 

Cydlynydd Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Cenedlaethol newydd parhaol o fewn Llywodraeth Cymru

 

Mae aelodau yng Nghymru wedi ymgyrchu’n ddiflino am ymagwedd strategol at leferydd, iaith a chyfathrebu o fewn y blynyddoedd cynnar. Roeddem yn hynod falch pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun cyflenwi Siarad Gyda Fi Lleferydd, iaith a Chyfathrebu oedd yn anelu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu a sicrhau bod ymyriadau’n cael eu darparu i bawb ar y pwynt angen. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru hefyd i ariannu secondiad dwy therapydd lleferydd ac iaith ar drefniant rhannu swydd i hybu darpariaeth strategol fel Cydlynwyr Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Cenedlaethol.

Bu canmoliaeth fawr i gynllun Siarad Gyda Fi yng Nghymru a hefyd tu fas.

Mae uchafbwyntiau’r cynllun yn cynnwys:

  1. Ymgyrch gyhoeddusrwydd lwyddiannus iawn Siarad Gyda Fi oedd yn cynnwys hysbysebion teledu ac ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a gynhyrchwyd ar y cyd gyda’n cynulleidfa darged o deuluoedd ac ymarferwyr. Arweiniodd yr ymgyrch at godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu a sut i gefnogi eu datblygiad, gyda 62% o’r rhieni a’r gofalwyr a arolygwyd yn cytuno gyda’r datganiad: “Rwy’n gwybod mwy am pam ei bod yn bwysig siarad gyda fy mabi neu blentyn ar ôl gweld yr ymgyrch”.
  2. Daeth gwefan Siarad Gyda Fi yn safle hanfodol ar gyfer rhieni a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru i cael gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth ar sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu ac mae’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau tebyg i gyngor da, dalenni ffeithiau a gwybodaeth ar oedrannau a chamau.
  3. Datblygu llwybr hyfforddiant Sgiliau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu i Gymru gyfan ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar a phecyn hyfforddiant pwrpasol ar gyfer ymwelwyr iechyd a gynlluniwyd ar y cyd gydag ymwelwyr iechyd yng Nghymru.
  4. Mae adolygu ymyriadau anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ar lefel gyffredinol, poblogaeth ac wedi ei dargedu wedi galluogi Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i ddatblygu adnoddau Cymraeg ar gyfer ymarferwyr a theuluoedd, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau.
  5. Sicrhawyd £1.5m o gyllid i ddatblygu dull sgrinio dwyieithog newydd addas i’r diben i sicrhau y caiff plant sydd angen cymorth ychwanegol eu hadnabod yn gynnar ac y caiff cymorth ychwanegol ei ddarparu.

Oherwydd llwyddiant y cynllun ac effaith gwaith therapyddion llferydd ac iaith yn y llywodraeth, yn ein cyfarfod ar 15 Mai 2024 gyda’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Blynyddoedd Cynnar, dywedodd Jayne Bryant AS wrthym y byddai Llywodraeth Cymru yn mynd ati yn y dyfodol agos i recriwtio Cydlynydd Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Cenedlaethol ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc. Gallwch weld rôl y swydd yma.

Dywedodd Pippa Cotterill, Pennaeth Swyddfa Cymru:

“Y cynllun Siarad Gyda Fi yw’r cynllun llywodraeth gyfan cyntaf i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y Deyrnas Unedig a sonnir amdano yn gyson fel enghraifft o arfer da gan y RCSLT. Rydym yn falch tu hwnt o lwyddiannau’r cynllun hyd yma a dymunwn dalu teyrnged i arweinyddiaeth ysbrydoledig Catherine Pape a Claire Butler, Cydlynwyr Cenedlaethol Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu a therapyddion lleferydd ac iaith. Dymunwn hefyd ddiolch i’r Gweinidog a gweision sifil am eu hymrwymiad parhaus i faes anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r swyddog newydd ar fersiwn nesaf Siarad Gyda Fi.”