Trosolwg Therapi Lleferydd ac Iaith – Cymraeg

Beth yw therapi lleferydd ac iaith?

Mae therapi lleferydd ac iaith yn darparu triniaeth, cefnogaeth a gofal i blant ac oedolion sydd ag anawsterau cyfathrebu, neu gyda bwyta, yfed neu lyncu.

Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yw therapyddion lleferydd ac iaith. Maent yn gweithio efo rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol eraill megis athrawon, nyrsus, therapyddion galwedigaethol a meddygon. Mae oddeutu 16,500 ohonynt yn ymarfer yn y Deyrnas Unedig mewn amrywiaeth fawr o osodiadau.

Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn Ymddiriedolaeth Gofal Bradford wedi creu cyfres o fideos, yn siarad am eu gwaith ac yn dangos yr hyn mae therapyddion iaith a lleferydd yn ei wneud.

  • Gwyliwch fideos am therapi lleferydd ac iaith

Sut i ddod o hyd i therapydd lleferydd ac iaith

Os ydych yn credu eich bod chi, eich plentyn neu berthynas angen gweld therapydd lleferydd ac iaith, gofynnwch i’ch meddyg teulu, nyrs ardal, ymwelydd iechyd, staff meithrinfa neu athro eich plentyn am atgyfeiriad.

Gallwch hefyd atgyfeirio eich hun i’ch gwasanaeth therapi lleferydd ac iaith lleol. Nid yw’n rhaid i chi aros i rywun arall eich atgyfeirio.

Ffoniwch eich gwasanaeth GIG lleol a gofynnwch am rif ffôn eich gwasanaeth therapi lleferydd ac iaith GIG.

Sut i gysylltu gyda’ch GIG lleol

Cyfeiriadur ar-lein

Gallwch hefyd ddod o hyd i rif ffôn eich gwasanaeth GIG lleol yn eich llyfr ffôn neu holwch yn eich meddygfa.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae hyn yn amrywio ar draws y Deyrnas Unedig oherwydd fod gwasanaethau’n cael eu trefnu mewn ffyrdd gwahanol. Mewn rhai ardaloedd, mae’r galw am y gwasanaethau’n uchel iawn.

Mae gan rai ardaloedd systemau lle mae atgyfeiriadau cyntaf yn cael eu didoli cyn trefnu apwyntiadau.

Os mai’r system hon sy’n cael ei gweithredu yn eich ardal, fe allai therapydd neu gynorthwyydd therapi lleferydd ac iaith eich ffonio yn y lle cyntaf i ganfod mwy am eich sefyllfa. Os felly, gofynnwch bryd hynny beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir fydd rhaid i chi aros am apwyntiad.

Os ydych yn credu bod gofyn i chi ddisgwyl yn rhy hir am apwyntiad cyntaf neu driniaeth wedi’r apwyntiad cyntaf, cysylltwch â’r adran therapi lleferydd ac iaith i holi beth sydd wedi digwydd.

Os ydych yn dal i gael trafferth, cysylltwch â’ch gwasanaeth GIG lleol i drafod y sefyllfa

Pam fod therapi lleferydd ac iaith yn bwysig?

Mae therapi lleferydd ac iaith yn hanfodol o ran hyrwyddo iechyd y cyhoedd, ac mae therapyddion lleferydd ac iaith yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi gofal effeithiol a gofal brys.

Mae gan therapyddion lleferydd ac iaith rôl allweddol i’w chwarae o ran pennu galluedd meddyliol. Iechyd meddwl a’r cyswllt â chyfathrebu ac anghenion llyncu.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth helaeth ynghylch y meysydd clinigol canlynol yn cynnwys taflenni ffeithiol defnyddiol sy’n rhoi manylion astudiaethau achos a hanesion pobl, ac yn dangos sut mae therapi lleferydd ac iaith yn newid bywydau:

  • Affasia
  • Anableddau dysgu
  • Anafiadau i’r ymennydd
  • Anawsterau lleferydd datblygiadol
  • Anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol
  • Anhwylderau iaith
  • Anhwylderau echddygol
  • Anhwylderau lleferydd echddygol caffaeledig
  • Anhwylderau niwrolegol cynyddol
  • Awtistiaeth
  • Byddardod
  • Canser y pen a’r gwddf
  • Cyfathrebu amgen a chynyddol
  • Cyflyrau creuanwynebol
  • Dementia
  • Diffyg rhuglder
  • Dwyieithrwydd
  • Dysffagia
  • Gofal anadlol oedolion
  • Gofal critigol
  • Gofal newyddenedigol
  • Gwefus a thaflod hollt
  • Iechyd meddwl emosiynol cymdeithasol
  • Iechyd meddwl oedolion
  • Iechyd y cyhoedd
  • Llais
  • Llais trawsryweddol
  • Mudandod dethol
  • Nam amlsynnwyr
  • Nam ar y golwg
  • Plant sy’n derbyn gofal
  • Strôc

Therapyddion lleferydd ac iaith annibynnol (preifat)

Fel rheol, mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gallu cynnig apwyntiad ar unwaith ar gyfer asesiad sy’n cael ei ddilyn gan therapi addas ar gyfer y cleient.

Cysylltwch â’r Gymdeithas Therapyddion Lleferydd ac Iaith mewn Practis Annibynnol i ddod o hyd i’ch therapyddion annibynnol lleol.

Mae rhai therapyddion annibynnol yn cynnig arbenigaeth mewn meysydd penodol o anawsterau cyfathrebu, yn cynnwys y canlynol:

  • asesiad a diagnosis o anhwylderau cymhleth, weithiau ar y cyd â phobl broffesiynol eraill
  • tiwtorialau ar gyfer problemau penodol, megis dyslecsia
  • ail farn ac adroddiadau ar gyfer datganiadau anghenion addysgol arbennig a mynychu asesiadau tribiwnlys, llunio adroddiadau a mynychu llys ar gyfer hawliadau meddygol-gyfreithiol.

Ble mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio?

Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio yn y lleoliadau canlynol:

  • Ysgolion prif ffrwd ac arbenigol
  • Llysoedd barn, carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc
  • Iechyd – canolfannau iechyd cymunedol, wardiau ysbyty, adrannau cleifion allanol
  • Canolfannau plant
  • Canolfannau dydd
  • Cartrefi cleientiaid
  • Yn annibynnol/practis preifat

Gyda phwy mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio?

Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio gyda babanod, plant ac oedolion:

Babanod:

  • Anawsterau bwydo a llyncu

    Plant:

  • Anableddau corfforol
  • Anawsterau dysgu – mân, cymedrol neu ddifrifol
  • Anawsterau penodol wrth greu synau
  • Anhwylderau iaith
  • Anhwylderau lleisiol
  • Atal dweud
  • Awtistiaeth/anawsterau rhyngweithio cymdeithasol
  • Byddardod
  • Diffyg rhuglder
  • Dyslecsia
  • Mudandod dethol
  • Oedi mewn iaith
  • Taflod hollt

Oedolion:

Problemau cyfathrebu neu fwyta a llyncu yn sgil amhariad niwrolegol a chyflyrau dirywiol, yn cynnwys y canlynol:

  • Affasia
  • Anableddau dysgu
  • Anaf i’r ymennydd
  • Anawsterau lleferydd datblygiadol
  • Anhwylderau niwrolegol cynyddol
  • Anhwylderau echddygol
  • Anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol
  • Anhwylderau iaith
  • Anhwylderau lleferydd echddygol caffaeledig
  • Awtistiaeth
  • Byddardod
  • Canser y pen a’r gwddf
  • Cyfathrebu Amgen a Chynyddol
  • Cyflyrau creuanwynebol
  • Dementia
  • Diffyg rhuglder
  • Dwyieithrwydd
  • Dysffagia
  • Gofal anadlol oedolion
  • Gofal critigol
  • Gofal newyddenedigol
  • Gwefus a thaflod hollt
  • Iechyd meddwl emosiynol cymdeithasol
  • Iechyd meddwl oedolion
  • Iechyd y cyhoedd
  • Llais
  • Mudandod dethol
  • Nam amlsynnwyr
  • Nam ar y golwg
  • Plant sy’n derbyn gofal
  • Strôc

Taflenni ffeithiol Cymraeg

Gwybodaeth i gomisiynwyr

Mae’r RCSLT wedi gweithio gyda’i aelodau a phartneriaid allanol i greu cyfoeth o wybodaeth ar gyfer comisiynwyr gwasanaethau lleferydd ac iaith ynghyd â’r rhai sydd am i’w gwasanaethau gael eu comisiynu. Mae hwn yn faes gwaith sydd ar gynnydd felly dewch yn ôl i edrych ar y tudalennau a’r dolenni cyswllt hyn yn rheolaidd wrth iddynt ddatblygu:

Comisiynu gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith arbenigol iawn ar gyfer plant a phobl ifanc byddar

Modelau dadansoddiad cost a budd

Pecynnau cost a budd AAC a noddwyd gan NHS Education for Scotland (NES)

Yn sgil yr Adroddiad Matrix yn 2010, mae’r RCSLT wedi datblygu dadansoddiadau cost a budd newydd ar gyfer ymyriadau lleferydd ac iaith. Fel rhan o’r gwaith hwnnw, mae RTK Ltd a Concentra wedi bod yn diweddaru modelau cynharach o gostau a buddion therapi lleferydd ac iaith ar gyfer pedair carfan a chyflwr.

Synthesis Tystiolaeth

Mae’r Llawlyfr Adnoddau’n ddarn mawr o waith sy’n rhan o’r pecynnau RCSLT a all gynorthwyo arweinyddion gyda’r gwaith o gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau sy’n unol â blaenoriaethau’r llywodraeth a blaenoriaethau lleol.

Canfod mwy am broffiliau iechyd yn Lloegr

Ewch i’r adran gwefan rhwydwaith Arsyllfeydd Iechyd y Cyhoedd er mwyn nodi’r problemau yn eich ardal.

Enghreifftiau o waith therapi lleferydd ac iaith arloesol

Cyhoeddwyd yr enghreifftiau hyn eisoes yng nghylchgrawn Bwletin yr RCSLT yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf. Mae’r enghreifftiau, sydd wedi eu rhannu fesul blwyddyn, arbenigedd (plant, oedolion ac anableddau dysgu oedolion), ac amrywiol gyflyrau, yn dangos amrediad o wasanaethau seiliedig ar dystiolaeth a chost-effeithiol.

Better Communication: Shaping speech, language and communication services for children and young people

Bydd y cyhoeddiad hwn o help i gomisiynwyr fapio anghenion eu poblogaethau lleol a’r sgiliau yn eu gweithlu plant ac yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y broses o gomisiynu a phennu’r deilliannau y dymunant weld yn dod o’u buddsoddiad. Gobeithiwn, hefyd, y bydd yn darparu modelau o wasanaethau ansawdd uchel a chost-effeithiol i’r comisiynwyr a’r darparwyr ill dau.

Two Years On: Final report of the Communication Champion for children

Adroddiad terfynol Pencampwr Cyfathrebu plant, Jean Gross CBE

Astudiaeth achos Ymddiredolaeth Gofal Ardal Bradford

Mae therapyddion lleferydd ac iaith Ymddiriedolaeth Gofal Bradford wedi creu cyfres o fideos ohonynt yn siarad am eu gwaith ac yn dangos beth mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gwneud a pham ei fod yn bwysig.

Anghenion cymhleth mewn ysgolion arbenigol
Awtistiaeth
Canolfannau plant
Nam ar y clyw 
Oedolion gydag Anabledd Dysgu
Taflod hollt ac anhwylderau cyseinedd

Mwy o fideos o sianel YouTube Ymddiriedolaeth Gofal GIG Ardal Bradford.

Canolfan Therapi Lleferydd ac Iaith Bullmeadow

Ffilm am gyfathrebu gyda babanod:

  • Pam fydym angen y ffilm? – darllenwch am y fideo gan y rhai a’i creodd gydag arian y Loteri Fawr a chymorth teuluoedd lleol.
1  of  10