RCSLT Wales launch 2026 state of the nation report

18 May 2026

The new report highlights the current and future availability of speech and language services in Wales, where SLCN is the most common type of learning need

Our latest state of the nation report is being published this week, looking in detail at the demand for speech and language therapy provision and the profile of our current and future workforce, including a focus on retention within the profession in Wales. We’ll also be sharing the report with newly elected MSs at the Senedd on Wednesday 20 May, at a stand sponsored by Jane Dodd MS.

Demand for speech and language therapy provision remains consistently high and complexity is increasing. In the 2026 RCSLT workforce survey, 6 of the 7 local health boards in Wales reported that the existing number of SLTs is insufficient to meet the needs of the service.

 

Findings

For the first time, we have benchmarked speech and language therapy provision against staffing recommendations for clinical areas such as stroke, neonatal care, intensive care and neurorehabilitation.  Our benchmarking exercise shows unacceptable workforce gaps across stroke, neonatal care, intensive care and neurorehabilitation with potential huge risks for patient safety and experience.

Given this backdrop, we are extremely concerned about the job shortage for speech and language therapy graduates. 24/42 (57%) of graduates from speech and language therapy courses in summer 2025 who were in receipt of the NHS Wales bursary did not have jobs as of March 2026 due to pressures on local health boards budgets. We understand that in 4 of the 7 local health boards, speech and language therapy posts have been frozen in the last year.

Commissioning numbers for speech and language therapy students for 2026/27 have also reduced from 55 to 38 (a 31% decrease) threatening the future pipeline for the profession and the future viability of small courses.

 

Next steps

We are calling for the new Welsh Government to:

  • as a minimum, restore speech and language therapy training places to 2025/26 levels with a view to increasing places in future years to take account of increased need and new models of care.
  • prioritise sustainable funding for speech and language therapy services to meet growing demand, particularly in clinical areas where our benchmarking analysis shows services are not meeting workforce recommendations.

 

Read the report in full

You can read more about our findings and concerns in the State of the Nation report
Read the 2026 state of the nation report

For more information contact walesoffice@rcslt.org

 

RCSLT Cymru yn lansio adroddiad cyflwr y genedl mewn digwyddiad yn y Senedd

 

Mae’r adroddiad newydd yn trafod y galw am ddarpariaeth therapi lleferydd ac iaith a phroffil y gweithlu presennol a’r dyfodol yng Nghymru lle mai anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yw’r math mwyaf cyffredin o anghenion dysgu.  

Cyhoeddir ein adroddiad diweddaraf yr wythnos hon, sydd yn edrych yn fawr ar y galw am ddarpariaeth therapi lleferydd ac iaith a phroffil y gweithlu presennol a’r dyfodol, gan gynnwys ffocws ar gadw niferoedd staff yn y proffesiwn yng Nghymru. Mi fydden hefyd yn rhannu’r adroddiad gydag Aelodau’r Senedd, sydd newydd gael eu hethol, ar ddydd Mercher 20ain o Fai ar stondin a noddir gan Jane Dodds AS.

Mae’r galw am ddarpariaeth therapi lleferydd ac iaith yn parhau i fod yn gyson uchel ac mae cymhlethdodau yn cynyddu. Yn arolwg gweithlu 2026 Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, nododd 6 o’r 7 bwrdd iechyd lleol yng Nghymru nad yw’r nifer presennol o therapyddion yn ddigonol i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.

 

Canfyddiadau

Am y tro cyntaf, rydym wedi meincnodi darpariaeth therapi lleferydd ac iaith yn erbyn argymhellion staffio ar gyfer meysydd clinigol fel strôc, gofal newydd-enedigol, gofal dwys a niwroadsefydlu. Mae ein hymarfer meincnodi yn dangos bylchau annerbyniol yn y gweithlu ar draws gwasanaethau strôc, gofal newydd-enedigol, gofal dwys a niwroadsefydlu gyda risgiau enfawr posibl i ddiogelwch a phrofiad cleifion.

O ystyried y cefndir hwn, rydym yn bryderus iawn am y prinder swyddi i raddedigion therapi lleferydd ac iaith. Dim ond 24/42 (57%) o raddedigion o gyrsiau therapi lleferydd ac iaith yn ystod haf 2025 oedd â swyddi yn GIG Cymru ym mis Mawrth 2026 oherwydd pwysau ar gyllidebau byrddau iechyd lleol. Deallwn fod swyddi therapi lleferydd ac iaith cymwys wedi’u rhewi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ym 4 o’r 7 bwrdd iechyd lleol.

Mae niferoedd comisiynu ar gyfer myfyrwyr therapi lleferydd ac iaith ar gyfer 2026/27 wedi gostwng o 55 i 38 (gostyngiad o 31%) gan fygwth y cyflenwad yn y dyfodol ar gyfer y proffesiwn a hyfywedd cyrsiau bach yn y dyfodol.

 

Camau nesaf

Rydym yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i sicrhau’r canlynol;

  • fel isafswm, adfer nifer lleoedd hyfforddi therapi lleferydd ac iaith i lefelau 2025/26 gyda’r bwriad o gynyddu lleoedd yn y blynyddoedd i ddod i ystyried yr angen cynyddol a modelau gofal newydd.
  • sicrhau cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith i gwrdd â’r galw cynyddol, yn enwedig mewn meysydd clinigol lle mae ein dadansoddiad meincnodi yn dangos nad yw’r gwasanaethau yn bodloni’r argymhellion o ran y gweithlu.

 

Darllenwch ein adroddiad yn llawn

Cewch ddarllen mwy am ein canfyddiadau a’n pryderon yn yr adroddiad Cyflwr y Genedl.
Darllenwch ein adroddiad yn llawn

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â walesoffice@rcslt.org