24 January 2023

The RCSLT has welcomed the announcement of additional funding for allied health professionals in Wales, but says that additional training places for speech and language therapists are still needed if there are to be long-term improvements

Eluned Morgan, Minister for Health and Social Services at Welsh Government, has announced £5 million to increase the number of Allied Health Professionals (AHPs) and improve access to community-based care to help people remain active and independent.

The funding, which will become available in April 2023, aims to increase the number of community-based AHPs and support workers. The focus will be on providing preventative and early intervention services, alternatives to hospital admission and reduce the need for long-term social care.

Dr. Caroline Walters, External Affairs Manager for the Royal College of Speech and Language Therapists in Wales, says:

“We warmly welcome this funding announcement. Speech and language therapists have a key role to play in supporting people with communication and swallowing difficulties to keep safe and well at home. Managing swallowing problems, in particular, at home or in residential care reduces the risks of choking, chest infections, aspiration pneumonia, dehydration and malnutrition and decreases the need for crisis management that often results in unnecessary hospital admissions.”

“Our members and charity partners have told us for many years that community rehabilitation is often piecemeal and varies significantly depending where you live in Wales. We applaud the government’s decision to invest in this area but caution that funding must be long-term and backed by improved workforce planning for AHPs in Wales.”

“We were disappointed that the recent investment package in health professional education included no increase in training places for speech and language therapy despite a significant growth in demand for services. In order to realise the potential of our profession within community services and create a sustainable workforce for the future, we are calling for an urgent increase in training places.”

For more information, please contact caroline.walters@rcslt.org

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £5m am Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Newydd

Mae Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith (RCSLT) wedi croesawu’r cyhoeddiad am gyllid ychwanegol ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru, ond dywedodd fod angen cyfuno hynny gyda lleoedd hyfforddiant ychwanegol ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith er mwyn sicrhau gwelliannau hirdymor go iawn.

Mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymunedol, wedi cyhoeddi £5 miliwn i gynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwella mynediad i ofal yn y gymuned i helpo’u pobl i barhau’n actif ac annibynnol.

Nod y cyllid, a ddaw ar gael ym mis Ebrill 2023, yw cynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol i iechyd a gweithwyr cymorth sy’n seiliedig yn y gymuned. Bydd y ffocws ar ddarparu gwasanaethau ataliol ac ymyriad cynnar, dewisiadau heblaw derbyn i ysbyty a gostwng yr angen am ofal cymdeithasol hirdymor.

Dywed Dr Caroline Walters, Rheolwr Materion Allanol Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith yng Nghymru:

“Rydym yn rhoi croeso cynnes i’r cyhoeddiad am gyllid. Mae gan therapyddion lleferydd ac iaith rôl allweddol wrth gefnogi pobl gydag anawsterau cyfathrebu a llyncu i gadw’n ddiogel ac iach yn eu cartrefi. Mae rheoli problemau llyncu, yn arbennig, adre neu mewn gofal preswyl yn gostwng risgiau tagu, heintiadau’r frest, niwmonia allugnad, dadhydradu a diffyg maeth ac yn gostwng yr angen am reoli argyfwng sy’n aml yn arwain at dderbyn cleifion yn ddiangen i ysbyty.

“Dywedodd ein haelodau a’n partneriaid elusennol wrthym am flynyddoedd lawer bod adsefydlu yn y gymuned yn aml yn ddarniog ac yn amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar ble yng Nghymru yr ydych yn byw. Canmolwn benderfyniad y llywodraeth i fuddsoddi yn y maes hwn ond rhybuddiwn fod yn rhaid i’r cyllid fod yn hirdymor ac y caiff ei gefnogi gan well cynllunio gweithlu ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru.

“Roeddem yn siomedig nad oedd y pecyn buddsoddiad diweddar mewn addysg broffesiynol iechyd yn cynnwys unrhyw gynnydd mewn lleoedd hyfforddi ar gyfer therapi lleferydd ac iaith er gwaethaf cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau. Er mwyn gwireddu potensial ein proffesiwn o fewn gwasanaethau cymunedol a chreu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, galwn am alwad brys am gynnydd brys yn y lleoedd hyfforddiant.”

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â caroline.walters@rcslt.org