Prentisiaethau (Lloegr yn unig)

Diddordeb mewn prentisiaethau therapi lleferydd ac iaith? Edrychwch ar ein gwybodaeth ar gyfer darpar brentisiaid therapyddion lleferydd ac iaith i ganfod os yw prentisiaeth ar eich cyfer chi.

Os ydych yn ddarpar gyflogwr neu brifysgol sydd â diddordeb mewn datblygu prentisiaeth, edrychwch ar ein gwybodaeth ar gyfer cyflogwyr a phrifysgolion.

Ddarllenwch yn Saesneg

Mae’r RCSLT yn cefnogi datblygu prentisiaethau lefel gradd mewn therapi lleferydd ac iaith.

Mae prentisiaethau yn cynnig cyfleoedd i weithio ac astudio yr un pryd, fel y gallwch ennill incwm tra’n hyfforddi i gymhwyso fel therapydd lleferydd ac iaith.

I ddod yn brentis bydd angen i chi yn gyntaf ganfod cyflogwr sydd â swydd wag ar gyfer prentis therapi lleferydd ac iaith. Gall hyn fod eich cyflogwr presennol neu gyflogwr newydd. Bydd eich cyflogwr wedyn yn gweithio gyda phrifysgol i sicrhau lleoedd ar gyfer prentisiaid. Ni allwch wneud cais yn uniongyrchol i brifysgolion am brentisiaeth therapydd lleferydd ac iaith.

Oherwydd cyllid y Llywodraeth, dim ond yn Lloegr mae prentisiaeth lleferydd ac iaith ar gael ar hyn o bryd.

Mae llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cymryd safbwynt a dull gwahanol ar sut maent yn defnyddio cyllid prentisiaethau. Mae’n wahanol ym mhob cenedl ddatganoledig, ond mae’r llywodraethau hynny yn cefnogi’r graddau traddodiadol drwy ddarparu cyllid a/neu eu comisiynu’n uniongyrchol.

Caiff y prentisiaethau therapi lleferydd ac iaith cyntaf eu cyflwyno gan Brifysgol Essex yn 2022Prifysgol Dinas Birmingham ym mis Ionawr 2023 a Phrifysgol Sheffield o 2023.

Gall prifysgolion gyflwyno rhan gradd y brentisiaeth ar nail ai lefel israddedig neu radd meistr gydag achrediad RCSLT. Byddant yn penderfynu pa rai i’w cynnig, nid yw hyn yn debygol o fod yn ddewis ar gyfer unigolion.

Bydd y gofynion mynediad yn fras debyg i’r rhai ar gyfer cyrsiau presennol mewn prifysgolion, ond mater i’r cyflogwr a’r brifysgol yw penderfynu ac yn aml rhoddir ystyriaeth i brofiad perthnasol.

Mae’r brentisiaeth israddedig yn debyg o fod am tua pedair blynedd a phrentisiaeth meistr tua thair blynedd.

Nodweddion allweddol prentisiaethau

Bydd y brentisiaeth therapi lleferydd ac iaith yn:

  • Rhoi cyfuniad o ddysgu seiliedig ar sail a dysgu academaidd
  • Diffinio profiad dysgu ansawdd uchel a chefnogaeth ar gyfer prentisiaid.
  • Alinio gyda gofynion HCPC ar gymhwyster i gofrestru i ymarfer fel therapydd lleferydd ac iaith yn y Deyrnas Unedig ac i ddefnyddio’r teitl a ddiogelir.
  • Dim ond ar gael yn Lloegr – nid ydynt hyd yma yn cael eu cefnogi ar lefel cyn-cofrestru gan lywodraethau yn y cenhedloedd eraill.

Sut mae prentisiaethau yn gweithio?

  • Gweithiwr cyflogedig yw prentis ac nid myfyriwr – nid yw prentis yn cael benthyciad myfyriwr.
  • Mae’r cyflogwr yn gyfrifol  am dalu cyflog i’r prentis.
  • Caiff ffioedd hyfforddiant y prentis eu talu drwy ardoll prentisiaeth y llywodraeth.
  • Rhaid i o leiaf 20% o wythnos waith y brentisiaeth gael ei threulio mewn dysgu i ffwrdd o’r gweithle – gellir trefnu’r amser hwn mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft mewn blociau yn hytrach nag fel diwrnod sefydlog yr wythnos.
  • Dyllai prentis therapydd lleferydd ac iaith hefyd gael amser wedi’i ddiogelu ar gyfer astudiaeth academaidd.

Pa gymhwyster fyddaf i yn ei gael?

Mae’r brentisiaeth a gynigir ar gyfer therapi lleferydd ac iaith yn gwrs lefel gradd – fel rhan o’r brentisiaeth byddwch yn cwblhau naill ai radd cyn-cofrestru israddedig neu feistr – yn union fel myfyrwyr therapi lleferydd ac iaith mewn prifysgol.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd?

Rhagwelwn y bydd y brentisiaeth am tua pedair blynedd. Gall fod yn fyrrach os oes gennych eisoes radd berthnasol ac y gallwch gymryd cymhwyster lefel meistr fel rhan o’r brentisiaeth.

Yn yr un ffordd mae’r cymhwyster meistr, drwy’r llwybr traddodiadol, fel arfer yn fyrrach na’r llwybr israddedig, byddem hefyd yn disgwyl i brentisiaeth meistr fod yn fyrrach nag un israddedig, a thybio eu bod yn dilyn yr un model cyflenwi. Mae hyn ar agor i’w drafod rhwng prifysgolion a chyflogwyr.

Bydd cyflogwr yn asesu ac yn meintioli pa ddysgu perthnasol sydd gan brentis ar ddechrau’r brentisiaeth. Mater i brifysgolion unigol yw p’un ai oes mwy o hyblygrwydd yn bosibl oherwydd dysgu blaenorol.

A fedraf astudio’n rhithiol neu o bell?

Mae’n bosibl ystyried gwahanol arddulliau o ddysgu, tebyg i wyneb yn wyneb, dysgu cyfunol neu ddysgu rhithiol. Mae hyn ar agor i’w drafod rhwng prifysgolion a chyflogwyr ac yn dibynnu ar achrediad RCSLT.

Rwyf yn gynorthwyydd therapi lleferydd ac iaith (SLTA) – a fyddaf yn parhau â fy nghyfrifoldebau presennol fel SLTA?

Bydd angen i’r prentisiaeth ddarparu ar gyfer dyletswyddau priodol ar gyfer prentis therapydd lleferydd ac iaith a chydnabod yr amser sydd ei angen mewn lleoliadau eraill ar gyfer lleoliadau ac amser astudiaeth. Felly, er y gall rhai dyletswyddau SLTA barhau fel prentis bydd hefyd yn wahanol i unrhyw rôl SLTA y gallech eisoes fod â hi.

Beth yw’r rhaniad rhwng gweithio ac astudiaeth?

Byddai angen i gyflogwr gynnig a darparu cytundeb prentisiaeth therapi lleferydd ac iaith penodol sy’n diwallu gofynion y Llywodraeth.

Gall cyflogwr benderfynu pa fand a thâl i’w gynnig, ond mae’n rhaid iddo ddarparu ar gyfer neilltuo o leiaf 20% o amser prentis ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o’r swydd – mae rheolau sy’n nodi beth y gall hyn ei gynnwys.

Os treuliwch 20% o’ch wythnos waith mewn dysgu academaidd, yna byddai’n cymryd tua 4 blynedd i gwblhau’r cwricwlwm cyn-cofrestru i israddedigion.

Gofynnir i chi nodi fod hyn yn tybio blwyddyn waith arferol, ac nid blwyddyn academaidd draddodiadol prifysgol.

Os treuliwch fwy o’ch wythnos waith ar ddysgu academaidd gallai hyn o bosibl gael ei gwtogi, er enghraifft, mae gan rai prentisiaethau ffisiotherapi fodel byrrach lle treulir mwy o amser yn y brifysgol.

Bydd angen i’r prifysgol a’r cyflogwr gytuno pa ganran fydd hyn.

A fydd y brentisiaeth ar gael fel opsiwn rhan-amser?

Nid yw’n bosibl dweud ar hyn o bryd, ond pe byddai yna byddai’n cymryd yn sylweddol fwy na phedair blynedd i’w chwblhau.

A allaf gwblhau’r brentisiaeth tra’n gweithio mewn swydd therapi integredig neu yn gweithio mewn dwy ymddiriedolaeth?

Byddai prentisiaeth therapi lleferydd ac iaith yn ei gwneud yn ofynnol i’ch cyflogwr gynnig cytundeb newydd fel prentis therapydd lleferydd ac iaith. Byddai angen i’r dyletswyddau fod yn briodol i’r rôl honno. Ni fyddai’n barhad o rôl bresennol.

Os oes gennych ddau gyflogwr ar hyn o bryd gallai o bosibl fod angen cytundeb am ba un fyddai’n eich cyflogi fel prentis, sut y byddent yn rhannu’r cyfrifoldeb hwnnw ac a fedrid gwneud i hyn weithio.

Sut mae dod yn brentis therapydd lleferydd ac iaith?

Pan fydd y brentisiaeth ar gael gallwch wneud cais am brentisiaeth gyda chyflogwr sy’n eu cynnig. Mae’n dal i fod yn rhy gynnar i wybod pa gyflogwyr fydd yn eu cynnig – edrychwch eto ar y dudalen hon i gael diweddariadau.

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr therapi lleferydd ac iaith y gwyddom amdanynt yn bwriadu cynnig y brentisiaeth hon i ddechrau drwy recriwtio mewnol yn hytrach nag allanol. Os nad ydych mewn swydd therapydd lleferydd ac iaith neu gynorthwyydd therapi ar hyn o bryd, neu mewn swydd arall yn y GIG neu’n gweithio mewn practis preifat therapi lleferydd ac iaith, gallech ddymuno ystyried y llwybr hwn fel opsiwn.

Pryd fedraf i wneud cais am brentisiaeth therapydd lleferydd ac iaith?

Ar hyn o bryd, dywedodd Prifysgol EssexPrifysgol Dinas Birmingham a Phrifysgol Sheffield y byddant yn cynnig y brentisiaeth therapi lleferydd ac iaith, gyda chyflogwyr prentisiaid. Mae Prifysgol Essex yn bwriadu dechrau yn hydref 2022 gyda phrifysgolion eraill yn 2023.

Nid oes unrhyw gynlluniau wedi eu cadarnhau i unrhyw sefydliad addysg bellach ar y cam hwn, er fod prifysgolion eraill wedi mynegi diddordeb mewn datblygu’r brentisiaeth a chynhaliwyd trafodaethau rhwng cyflogwyr a phrifysgol mewn llawer o ardaloedd. Yn anochel, effaith COVID-19 fu gohirio ystyriaeth o brosiectau newydd tra’u bod yn wynebu delio gyda phroblemau yn deillio o’r pandemig.

Gobeithiwn y gall mwy o brifysgolion a chyflogwyr gydweithio i gynnig y brentisiaeth maes o law.

Beth fydd y gofynion mynediad?

Mater i’r cyflogwr a’r brifysgol sy’n cynnig y brentisiaeth fydd penderfynu hynny, ond ni fyddem yn disgwyl iddynt fod yn sylweddol wahanol i lefel mynediad presennol.

A fydd y brentisiaeth ar agor i weithwyr cyflogedig/cynorthwywyr therapi lleferydd ac iaith presennol?

Bydd, mae’n bosibl i gyflogwyr gynnig prentisiaethau i weithwyr cyflogedig presennol, yn amodol ar y gofynion mynediad a gofynion eraill y maent wedi eu gosod.

Mae gen i radd eisoes, a fyddaf yn medru gwneud prentisiaeth?

Mae’n ofynnol i gyflogwr asesu a meintioli pa ddysgu blaenorol sydd gan brentis ar ddechrau’r brentisiaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd gradd flaenorol yn rhwystr i ddechrau ar brentisiaeth therapi lleferydd ac iaith oherwydd natur unigryw y proffesiwn therapi lleferydd ac iaith.

Os oes gennych radd berthnasol, gall fod yn bosibl yn y dyfodol i wneud y brentisiaeth ar lefel meistr mewn cyfnod byrrach na’r pedair blynedd ddisgwyliedig, er nad ydym ar hyn o bryd yn gwybod am unrhyw brifysgolion sy’n cynllunio’r brentisiaeth ar lefel meistr.

Beth sy’n radd berthnasol?

Bydd angen i gyflogwr a phrifysgol asesu a meintioli pa feini prawf y dymunant eu gosod ar gyfer ymgeiswyr drwy’r llwybr gradd israddedig a gradd meistr. Gall hyn fod yn amrywiol a gellir hefyd ei ystyried yn gyfannol gyda lefel y profiad gwaith.

A gaiff myfyrwyr aeddfed eu hystyried?

Mater i gyflogwyr fydd penderfynu pwy i’w cyflogi, ond nid oes unrhyw gyfyngiadau oed o safbwynt RCSLT. Mae cyllid gan y llywodraeth ar gyfer dysgu academaidd ar gyfer prentisiaid ar gyfer unrhyw un dros 16 oed.

A fyddaf yn cael fy nhalu yn ystod fy mhrentisiaeth?

Byddwch, byddwch yn derbyn cyflog prentisiaeth. Mater i’ch cyflogwr fydd faint yw hynny, yn amodol ar yr isafswm cyflog cyfreithiol ar gyfer prentisiaid a’ch profiad blaenorol neu gymwysterau. Mae canllawiau Which yn esbonio’r sylfeini (PDF).

Mae RCSLT yn disgwyl y dylai prentis therapydd lleferydd ac iaith gael eu cyflogi ar fras yr un lefel â chynorthwywyr therapi lleferydd ac iaith.

Bydd cyflogwyr yn dymuno ystyried os gall prentisiaid symud i fyny’r raddfa bandio wrth iddynt gyrraedd cerrig milltir yn eu profiad yn ystod eu prentisiaeth. Mae Cyngor Staff GIG hefyd yn rhoi canllawiau am dâl ac amodau prentisiaethau yn y GIG (PDF). Mae rhai sefydliadau yn defnyddio argymhellion cyflog Atodiad 21 Agenda dros Newid ar gyfer hyfforddeion. Mae eraill yn penderfynu ar eu cyflogau smotyn eu hunain.

A fydd yn rhaid i mi dalu ffioedd dysgu? A fyddaf yn cael benthyciad myfyrwyr?

Na – bydd ffioedd dysgu yn dod yn uniongyrchol gan y Llywodraeth. Ni fyddwch yn cael benthyciad myfyriwr.

A fydd fy ngradd flaenorol yn golygu na fyddai fy nysgu prentisiaeth yn gymwys am gyllid gan y Llywodraeth?

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd gradd flaenorol yn rhwystr i’ch cyflogwr gael cyllid gan y Llywodraeth ar gyfer eich prentisiaeth o gofio am natur unigryw y proffesiwn therapi lleferydd ac iaith.

Caiff y rheolau cyllido eu gosod gan y Llywodraeth ac maent yn newid o bryd i’w gilydd, felly dylech chi a’ch darpar gyflogwr fod yn ofalus i wirio eich cymhwyster cyn gwneud unrhyw ymrwymiadau.

A fydd unrhyw grantiau ar gael ar gyfer prentisiaid a all fod yn cymryd gostyngiad cyflog i gwblhau’r brentisiaeth?

Mae cyflogwr yn gyfrifol am dalu o leiaf y gyfradd isafswm perthnasol i’r cyflogwyr p’un ai yw hyn yn amser a dreuliwyd yn hyfforddi neu’n astudio p’un ai yn y gwaith, yn y brifysgol neu ar leoliad. Rhaid i brentisiaid gael cynnig yr un amodau â gweithwyr cyflogedig mewn swyddi tebyg.

Ni fyddem yn disgwyl gweld cyflogaeth ar fand is ar gyfer cynorthwywyr presennol sy’n dod yn brentis.

Ni wyddom am unrhyw grantiau neilltuol sydd ar gael i wneud iawn am unrhyw ostyngiad mewn cyflog.

Sut fyddai lleoliadau mewn meysydd clinigol eraill ar gael, er enghraifft gweithio mewn pediatreg ond cael lleoliad oedolion?

Bydd angen i brentisiaid gyflawni 150 sesiwn o ddysgu seiliedig ar ymarfer cyn cyflwyno ar gyfer eu hasesiad terfynol. Mae’r gofyniad i wneud oriau lleoliad mewn lleoliadau oedolion a pediatreg yr un fath ar gyfer prentisiaethau ag ar gyfer cyrsiau hyfforddiant israddedigion a meistr. Dylai cyflogwr y prentis a’r brifysgol gydweithio i sicrhau y caiff y gofynion hyn eu cyflawni.

Pa ffurf fyddai ar leoliadau?

Bydd angen i’r cyflogwr a’r sefydliad addysg uwch gytuno ar union fanylion lleoliadau gan gofio y gofynion ar gyfer prentis fel yr amlinellir yn yr ateb blaenorol.

A fydd angen i mi wneud cais am leoliadau tu allan i fy man gwaith arferol?

Er y byddwch yn treulio llawer mwy o’ch wythnos waith yn y gweithle na gyda gradd draddodiadol, bydd yn dal i fod angen dangos y cawsoch y cyfle ar gyfer lleoliadau tu allan i’ch lleoliad arferol.

Byddem yn annog cyflogwyr prentisiaid ar draws rhanbarth neu ardal system gofal integredig i ystyried opsiynau ar gyfer cyfnewid eu prentisiaid i roi amrywiaeth o brofiadau ar gyfer prentisiaid ar sail cylch.

Mae’r RCSLT yn cynnwys y model prentisiaeth i’r canllawiau diwygiedig ar ddysgu seiliedig ar ymarfer. Mae’n cynnwys canllawiau am addysg lleoliad fel rhan o’r llwybr prentisiaeth yn ogystal ag ar gyfer modelau traddodiadol o gymhwyster.

Mae canllawiau cwricwlwm y RCSLT (PDF) yn gosod yr oriau lleoliad gorfodol sydd eu hangen.

Os nad oes gan fy nghyflogwr gomisiwn ar gyfer gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith pediatreg, a fyddai hynny’n golygu y byddai fy ngradd wedi ei chyfyngu i wasanaethau oedolion, felly ai mai dim ond mewn gwasanaethau oedolion y gallwn gael fy nghyflogi?

Fel gyda llwybrau hyfforddiant traddodiadol, mae angen i brentisiaid ddilyn hyfforddiant seiliedig ar ymarfer mewn lleoliadau oedolion a hefyd leoliadau pediatrig i gynyddu eu cyflogadwyedd i’r eithaf drwy gydol eu gyrfa yn y dyfodol. Felly, gall fod angen i gyflogwyr gydweithio gyda sefydliadau eraill i sicrhau y caiff y gofyniad hwn ei ddiwallu.

1  of  5