Gallech fod wedi clywed am therapi lleferydd ac iaith yn eich swydd bresennol, neu gallai aelod o’ch teulu fod wedi cael therapi lleferydd ac iaith, a bod hynny wedi ysgogi eich diddordeb ynddo fel gyrfa. Neu efallai eich bod wrthi’n gorffen gradd mewn Cymraeg neu Saesneg, gwyddoniaeth neu ieithyddiaeth ac yn ystyried sut y gallwch adeiladu’r rheiny i mewn i yrfa?

Os hoffech gael swydd amrywiol, sy’n cynnig cyfleoedd dilyniant, yn ddiddorol a gwerth chweil yna gallai therapi lleferydd ac iaith fod yr yrfa newydd i chi.

Ddarllenwch yn Saesneg

Mae therapi lleferydd ac iaith yn broffesiwn sy’n cyfuno helpu pobl gyda phroblem cyfathrebu neu lyncu yn uniongyrchol gyda diddordeb mewn iaith, cyfathrebu a gwyddoniaeth.

Gallech weithio ar draws y Deyrnas Unedig mewn amrywiaeth eang o leoliadau, yn y GIG, practis preifat, addysg neu’r system cyfiawnder. Mae llawer o therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio’n rhan-amser neu mae ganddynt yrfa portffolio. Unwaith y byddant wedi cymhwyso, gall therapyddion lleferydd ac iaith ddewis arbenigo mewn meysydd neilltuol ac yn aml penderfynant weithio naill ai gydag oedolion neu gyda phlant. Mae hefyd yn bosibl dilyn gyrfa academaidd neu ymchwil. Mae’r radd yn cynnwys pob agwedd o therapi lleferydd ac iaith.

Mae dros 30 maes clinigol mewn therapi lleferydd ac iaith – beth fyddwch chi’n ei ddewis?

Os ydych yn dod i ddiwedd eich gradd gyntaf mae’n debyg eich bod yn ystyried opsiynau gyrfa. Gallech ystyried gwneud cais am radd meistr dwy flynedd – edrychwch ar ein gwybodaeth ar ofynion mynediad.

Os nad yw eich gradd gyntaf yn berthnasol i therapi lleferydd ac iaith gallech ystyried gwneud cais am radd israddedig arall neu am radd meistr – ond dylech gofio ystyried cyllid yn gyntaf. Nid yw cyllid ar gyfer ail raddau ar gael ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig.

Mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf o cyrsiau eisiau gweld eich bod wedi gwneud peth profiad gwaith cyn dechrau’r radd.

Fel rhywun sydd eisoes â phrofiad o’r gweithle bydd gennych eisoes rai sgiliau gwych i ddod â nhw i rôl therapi lleferydd ac iaith.

Mae tua 60% o fyfyrwyr therapi llefarydd ac iaith dros 21 oed pan ddechreuant eu cwrs, felly mae’n annhebyg mai chi fydd yr unig un sy’n mynd yn ôl i ddysgu.

Cymerwch amser i drafod disgwyliadau myfyrwyr gyda phrifysgolion a myfyrwyr presennol, er enghraifft mewn dyddiau agored.

Gallai rai prifysgolion fod eisiau i chi fedru dangos profiad diweddar o astudiaeth yn y pum mlynedd ddiwethaf – gallai hyn fod yn gwrs byr neu hyfforddiant yr ydych wedi’i orffen.

Ystyriwch os yw’r llwybr israddedig neu ôl-raddedig (neu brentisiaeth, yn y dyfodol) yn fwy tebygol o weddu eich amgylchiadau personol. Gall y llwybr meistr (ar gael os oes gennych radd eisoes), yn neilltuol fod yn ymrwymiad amser heriol, ac mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynghori nad yw’n bosibl fel arfer i ffitio swyddi rhan-amser wrth ochr y cwrs.

Edrychwch ar ein straeon gan therapyddion lleferydd ac iaith a newidiodd eu gyrfa.

Mae’r rheolau cyllid yn wahanol ym mhob un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig. Maent hefyd yn amrywio yn dibynnu os oes ganddynt radd a pha lwybr gyrfa a ddewiswch.

Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad heblaw’r un yr ydych yn byw ynddi, mae’r rheolau yn gymhleth iawn felly mae’n werth bod yn glir iawn cyn yr amser beth ydynt. Ni fydd pob un o genhedloedd y Deyrnas Unedig, er enghraifft, yn eich cyllido i wneud ail radd. Edrychwch ar ein gwybodaeth cyllid i gael mwy o fanylion.

Un peth pwysig i’w nodi nad y cyllid gradd meistr sydd ar gael ar gyfer graddau therapi lleferydd ac iaith yn Lloegr yw’r benthyciad meistr arferol sydd ar gael mewn pynciau heblaw gofal iechyd. Yn lle hynny mae’r un pecyn sydd ar gael i israddedigion, sy’n cynnwys mynediad i grant £5,000 ar gyfer pob blwyddyn o astudiaeth, yn ogystal â benthyciad myfyriwr.

Os ydych yn byw yn Lloegr, gallech fod â phryderon am gymryd benthyciad myfyrwyr, neu mewn rhai achosion ail fenthyciad, a’i ad-dalu.

Mae’r erthygl hon o Money Saving Expert yn edrych ar y ffeithiau, er enghraifft, wyddech chi fod cysylltiad rhwng y swm a dalwch yn ôl â faint a enillwch ar ôl graddio, dim pa mor fawr yw eich benthyciad?

Mae prentisiaethau therapi lleferydd ac iaith yn cael eu datblygu yn Lloegr ar hyn o bryd, gyda’r gyntaf yn cael ei chyflwyno o fis Hydref 2022 ym Mhrifysgol Essex a Phrifysgol Dinas Birmingham.

Y prif wahaniaeth rhwng y brentisiaeth a’r llwybr prifysgol traddodiadol yw y byddwch fel prentis yn weithiwr cyflogedig, nid myfyriwr.

Caiff elfen gradd academaidd y brentisiaeth ei chyllido gan y Llywodraeth a byddwch yn ennill cyflog prentisiaeth tra byddwch yn astudio.

Cewch eich talu gan eich cyflogwr am yr amser yr ydych yn y gweithle a hefyd yr amser yr ydych mewn dysgu academaidd. Ni fydd gennych fenthyciad myfyriwr.

Fodd bynnag, mae’r brentisiaeth yn debyg o gymryd mwy o amser na chwrs traddodiadol – tua pedair blynedd ar gyfer prentisiaeth israddedig.

Nid yw’r brentisiaeth yn cychwyn tan 2022, ac ar hyn o bryd mai’n debyg mai nifer gyfyngedig o leoedd fydd.

Os credwch mai dyma’r llwybr i chi yna efallai mai’r opsiwn gorau fyddai chwilio am swydd cynorthwyydd therapydd lleferydd ac iaith a gofyn i’ch cyflogwr os ydynt yn bwriadu cymryd rhan yn y cynllun prentisiaeth therapi lleferydd ac iaith.

Gobeithiwn y daw mwy o leoedd ar gael maes o law drwy’r llwybr hwn.

1  of  5