RCSLT responds to announcement of a new speech, language and communication (SLC) identification tool for young children in Wales

RCSLT responds to the investment of £1.5m to develop a speech, language and communication (SLC) identification tool for young children in Wales and separate £1,150,000 SLC uplift for 2022-24.

Welsh Government have announced the development of a £1.5 million bespoke Welsh tool which will provide an evidence based, bilingual approach to identifying speech, language and communication needs (SLCN) in children aged 0-4 years, 11 months. Read the full written statement.

The tool will involve the evaluation of communication milestones, risk factors and environmental factors at multiple age points, in line with the Healthy Child Wales Programme. Training in identification of SLCN, using the new tool, will be offered to a wide range of Early Years Practitioners.

Welsh Government have also awarded separate funding of £1,150,000 speech, language and communication (SLC) uplift for 2022-24 to health boards and specialist centres. The funding is intended to be used to strengthen SLC services and reduce waiting lists.

Pippa Cotterill, Head of Wales Office, commented:

“We warmly welcome the development of the bespoke identification tool – a key objective within the Talk With Me: Speech, Language and Communication Delivery Plan.

“The impact of unidentified SLCN in young children is significant, affecting every aspect of their lives. This tool will help us better recognise needs at an early stage and ensure children most in need are identified early and offered timely intervention by the right person, in the right place.

“We are also very pleased to hear about the much-needed SLC uplift for 2022-24. Post COVID, there is an increased demand for children’s speech and language therapy services and the difficulties facing children are more complex. This extra funding is much-needed and will make a real difference to the lives of children and young people across Wales.”

Ymateb y Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith (RCSLT) i gyhoeddiad adnodd lleferydd, iaith a chyfathrebu newydd ar gyfer plant bach yng Nghymru

Ymateb y Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith (RCSLT) i fuddsoddiad £1,5m i ddatblygu adnodd newydd i asesu anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn plant a chyhoeddiad cynnydd lleferydd, iaith a chyfathrebu ar wahân o £1,150,000 ar gyfer 2022-24.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datblygiad adnodd pwrpasol gwerth £1.5 miliwn ar gyfer Cymru fydd yn defnyddio dull dwyieithog yn seiliedig ar dystiolaeth i nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn plant 0-4 blwydd 11mis. Cewch ddarllen y datganiad ysgrifenedig llawn yma.

Bydd yr adnodd yn cynnwys asesiadau’n seiliedig ar gerrig milltir, ffactorau risg, a ffactorau amgylcheddol a fydd yn cael eu cynnal wrth gyrraedd gwahanol bwyntiau oedran, yn unol â Rhaglen Plant Iach Cymru. Bydd amrywiaeth eang o Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio’r adnodd newydd i adnabod anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwobrwyo cynnydd lleferydd, iaith a chyfathrebu ar wahân o £1,150,000 ar gyfer 2022-24, sydd wedi cael ei roi i fyrddau iechyd a chanolfannau arbenigol. Bydd hyn yn helpu i gryfhau gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu a lleihau rhestrau aros.

Dywedodd Pippa Cotterill, Pennaeth Swyddfa Cymru:

“Croesawn ddatblygiad yr adnodd pwrpasol i asesu anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn plant – amcan allweddol o fewn Siarad gyda Fi: Y cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (PDF).

“Mae effaith anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu sydd heb eu dynodi yn sylweddol, gan effeithio ar bob agwedd ar fywyd plentyn. Mi fydd yr adnodd newydd yn ein helpu i nodi’r plant sydd mewn mwyaf o angen yn gynnar fel eu bod yn cael cynnig ymyrraeth amserol gan y person iawn, yn y lle iawn.

“Rydym hefyd yn falch o glywed am y buddsoddiad ychwanegol ym maes lleferydd, iaith a chyfathrebu dros ddwy flynedd (2022-24). Yn dilyn y pandemig, mae galw cynyddol ar gyfer gwasanaethau lleferydd ac iaith ar gyfer plant ac mae’r anawsterau y mae plant yn eu hwynebu yn fwy cymhleth. Bydd yr arian ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a phobl ifanc ar draws Cymru.”

1  of  2