15 June 2022

The RCSLT’s response to the new report on hospital discharge and its impact on patient flow through hospitals.

Ymateb RCSLT i’r adroddiad newydd ar ryddhau o ysbyty ac effaith hynny ar lif cleifion drwy ysbytai.

Today (15 June 2022) the Welsh Parliament Health and Social Care Committee published its report on hospital discharge and its impact on patient flow through hospitals. RCSLT head of Wales office, Pippa Cotterill gave oral evidence to the committee as part of this important inquiry and we also provided written evidence which you can view on our Wales policy page.

The report highlights the scale of the issue of delayed transfers of care from hospital and provides a series of recommendations for improvements to the system, including the following key recommendations on the availability of Allied Health Professionals and a wrap-around rehabilitation service.

  • Recommendation 7: The Welsh Government should increase funding for reablement and home therapy services and work with partners to establish a comprehensive wrap-around rehabilitation service.
  • Recommendation 10: The Welsh Government should clarify its expectations about the availability of allied health professionals (AHPs) in different health and care settings, and set out how it will work with health boards to increase the presence of such professionals at the “front door” of services, particularly GP surgeries and A and E departments. In doing so, the Welsh Government should identify how any barriers to increasing AHP availability, including the need for any capital investment in estates or facilities, will be addressed.

Head of Wales office, Pippa Cotterill commented:

“We warmly welcome the publication of this report and in particular, the specific recommendations on rehabilitation, the availability of AHPs at the ‘front door’ of services and ensuring that the new Health and Social Care Regional Integration Fund is effective in identifying and mainstreaming projects which improve patient flow. These are all areas which we raised in our evidence session alongside our AHP colleagues.

“It is now vital that workforce planning takes account of the growing need for AHPs within primary care and at the front door of hospitals so we can realise the full potential of our professions. We look forward to working with local health boards and Welsh Government to achieve this step change which is so key to enabling care closer to home.”

RCSLT yn ymateb i adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru

Heddiw (15 Mehefin 2022), mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad ar ryddhau o ysbyty ac effaith hynny ar lif cleifion drwy ysbytai. Rhoddodd Pippa Cotterill, Pennaeth Swyddfa Cymru Cymdeithas Frenhinol y Therapyddion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (RCSLT) dystiolaeth lafar i’r pwyllgor fel rhan o’r ymchwiliad pwysig hwn ac fe wnaethom hefyd roi tystiolaeth ysgrifenedig y gallwch ei gweld ar ein tudalen polisi Cymru.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i faint problem oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai ac yn cyflwyno cyfres o argymhellion ar gyfer gwelliannau i’r system yn cynnwys yr argymhellion allweddol dilynol ar argaeledd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a gwasanaeth adsefydlu cofleidiol.

  • Argymhelliad 7: Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau ailalluogi a therapi cartref a gweithio gyda phartneriaid i sefydlu gwasanaeth adsefydlu cofleidiol.
  • Argymhelliad 10: Dylai Llywodraeth Cymru egluro ei disgwyliadau am argaeledd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd mewn gwahanol leoliadau iechyd a gofal, a nodi sut y bydd yn gweithio gyda byrddau iechyd i gynyddu presenoldeb gweithwyr proffesiynol o’r fath ar “ddrws blaen” gwasanaethau, yn neilltuol Feddygfeydd ac Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Wrth wneud hynny, dylai Llywodraeth Cymru ddynodi sut y caiff unrhyw rwystrau i gynyddu argaeledd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, yn cynnwys yr angen am unrhyw fuddsoddiad cyfalaf mewn stadau neu gyfleusterau, eu datrys.

Dywedodd Pippa Cotterill, Pennaeth Swyddfa Cymru:

“Rydym yn rhoi croeso cynnes i gyhoeddiad yr adroddiad hwn ac yn neilltuol yr argymhellion penodol ar adsefydlu, argaeledd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar ‘ddrws blaen’ gwasanaethau a sicrhau fod y Gronfa Integreiddio Ranbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn effeithlon wrth ddynodi a phrif ffrydio prosiectau sy’n gwella llif cleifion. Mae’r rhain i gyd yn feysydd y gwnaethom eu codi yn ein sesiwn tystiolaeth wrth ochr sefydliadau eraill Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Mae’n awr yn hanfodol fod cynllunio gweithlu yn rhoi ystyriaeth i’r angen cynyddol am Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd o fewn gofal sylfaenol ac ar ddrws blaen ysbytai fel y gallwn wireddu potensial llawn ein proffesiynau. Edrychwn ymlaen at weithio gyda byrddau iechyd lleol a Llywodraeth Cymru i gyflawni’r newid sylweddol hwn sydd yn allweddol i alluogi gofal yn nes gartref.”

1  of  2

Wales Policy

Find out about our work in Wales

Polisi Cymru

Welsh version of policy page