Tîm polisi a materion cyhoeddus Cymru

Read this page in English.

Wedi’i rymuso gan arbenigedd aelodau, mae tîm Polisi a Materion Cyhoeddus RCSLT Cymru yn anelu i sicrhau sedd i chi wrth y bwrdd uchaf, yn dylanwadu ar Weinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau o’r Senedd a gweision sifil.

Rydym yn meithrin perthynas gydag Aelodau o’r Senedd, Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol i newid deddfwriaeth a pholisi.

Ymgyrchwn dros fywydau gwell ar gyfer pobl sydd ag anghenion cyfathrebu a llyncu, yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a sefydliadau defnyddwyr gwasanaeth.

Cefnogwn chi i ddylanwadu’n lleol, gan roi cyngor strategol ac adnoddau ymarferol i chi.

  • Pippa Cotterill – Pennaeth Swyddfa Cymru (dyddiau gwaith – dyddiau Llun)
  • Caroline Walters – Rheolwr Materion Allanol (dyddiau gwaith – dyddiau Llun, Mawrth, Mercher a Gwener)
  • Naila Noori – Swyddog Materion Allanol (dyddiau gwaith – dyddiau Llun i Iau)

Cysylltwch â ni

3ydd llawr, Tŷ Trafnidiaeth, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SB

Ffôn:

Caroline Walters – 029 2002 5585

Naila Noori – 029 2002 5583

E-bost: walesoffice@rcslt.org.uk

Dilynwch @RCSLTWales a @RCSLTpolicy ar Twitter i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Blaenoriaethau ein swyddfa

Ein blaenoriaethau ar gyfer 2022-23 yw:

  • Iechyd meddwl
  • Blynyddoedd cynnar
  • Gofal sylfaenol
  • Gwasanaethau niwroddatblygiadol
  • Communication Access UK (CAUK)
  • Cyfiawnder ieuenctid
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Cyfleoedd i ymgysylltu

Aelodau yng Nghymru – gadewch i ni wybod eich barn ar sioeau teithiol RCSLT a chynlluniau ar gyfer digwyddiad hyb yn 2024

Yn 2022/23 ymrwymodd tîm RCSLT Cymru i fynychu cyfarfodydd tîm byrddau iechyd a chyfarfod o aelodau ASLTIP yng Nghymru i ailgysylltu gydag aelodau ar ôl cyfyngiadau Covid. Nod y sioe deithiol oedd rhoi sylw i rôl RCSLT a’r gefnogaeth y gall tîm RCSLT Cymru a’r holl sefydliad ei chynnig ac ystyried sut y gall aelodau gymryd rhan yn ein gwaith a chydweithio gyda ni. Lluniwyd adroddiad o’r adborth i’r sesiynau hyn a bydd yn sylfaen i’n cynllun gwaith ar gyfer 2024/25.

Rydym yn awyddus iawn i glywed eich barn ar ffurf y sioe deithiol a barn ar ddigwyddiad hyb Cymru yn 2024. Cliciwch yma i gymryd rhan yn yr arolwg byr erbyn dydd Iau 8 Chwefror 2024 os gwelwch yn dda a gwneud yn siŵr y caiff eich llais ei glywed. Ar ôl llenwi’r arolwg, anfonwch at walesoffice@rcslt.org os gwelwch yn dda.

Caiff ein hymatebion eu ffurfio drwy ymgysylltu gyda’n haelodau i gael adborth gwerthfawr. Byddwn yn rhannu unrhyw gyfleoedd i ymgysylltu yma ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Canfyddwch ffyrdd eraill i ymgysylltu gyda’r RCSLT yn ehangach ar y dudalen cymryd rhan.

Ymatebion a phapurau gwybodaeth

Read this page in English.

Plant a phobl ifanc

Dlodi plant
Newyddenedigol
Anhwylder Datblygu Iaith
Blynyddoedd cynnar
Plant sy’n derbyn gofal
Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Gwasanaethau Niwroddatblygiadol
Iechyd meddwl cymdeithasol emosiynol
Cyfiawnder

Oedolion

Dementia
Iechyd meddwl
Gweithlu

Polisi cyffredinol iechyd a gofal cymdeithasol

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Taflenni ffeithiau RCSLT Cymru

Communication Access UK (CAUK)

Mae Communication Access UK yn gynllun a ddatblygwyd mewn partneriaeth gan elusennau a sefydliadau sy’n rhannu gweledigaeth i wella bywydau pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu. Dan arweiniad y Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith, gyda’n gilydd rydym wedi datblygu Symbol Mynediad Cyfathrebu, symbol mynediad anabledd newydd gyda phecyn hyfforddiant a safonau hollol rad ac am ddim. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu unigolion a busnesau neu sefydliadau i roi cefnogaeth well i bobl gydag anawsterau cyfathrebu.

Mae CAUK yn flaenoriaeth i’n swyddfa. Mae ein ffocws ar hyn o bryd ar fersiwn Cymraeg o’r cynllun. .

Ar bwy ddylwn i geisio dylanwadu yng Nghymru?

Read this page in English.

Mae’r rhanddeiliaid allanol yng Nghymru y gallwch geisio dylanwadu arnynt yn cynnwys:

Adnoddau

1  of  3