Tîm polisi a materion cyhoeddus Cymru

Read this page in English.

Wedi’i rymuso gan arbenigedd aelodau, mae tîm Polisi a Materion Cyhoeddus RCSLT Cymru yn anelu i sicrhau sedd i chi wrth y bwrdd uchaf, yn dylanwadu ar Weinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau o’r Senedd a gweision sifil.

Rydym yn meithrin perthynas gydag Aelodau o’r Senedd, Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol i newid deddfwriaeth a pholisi.

Ymgyrchwn dros fywydau gwell ar gyfer pobl sydd ag anghenion cyfathrebu a llyncu, yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a sefydliadau defnyddwyr gwasanaeth.

Cefnogwn chi i ddylanwadu’n lleol, gan roi cyngor strategol ac adnoddau ymarferol i chi.

  • Pippa Cotterill – Pennaeth Swyddfa Cymru (dyddiau gwaith – dyddiau Llun)
  • Caroline Walters – Rheolwr Materion Allanol (dyddiau gwaith – dyddiau Llun, Mawrth, Mercher a Gwener)
  • Naila Noori – Swyddog Materion Allanol (dyddiau gwaith – dyddiau Llun i Iau)

Cysylltwch â ni

3ydd llawr, Tŷ Trafnidiaeth, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SB

Ffôn:

Caroline Walters – 029 2002 5585

Naila Noori – 029 2002 5583

E-bost: walesoffice@rcslt.org.uk

Dilynwch @RCSLTWales a @RCSLTpolicy ar Twitter i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Blaenoriaethau ein swyddfa

Ein blaenoriaethau ar gyfer 2022-23 yw:

  • Iechyd meddwl
  • Blynyddoedd cynnar
  • Gofal sylfaenol
  • Gwasanaethau niwroddatblygiadol
  • Communication Access UK (CAUK)
  • Cyfiawnder ieuenctid
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Cyfleoedd i ymgysylltu

Caiff ein hymatebion eu ffurfio drwy ymgysylltu gyda’n haelodau i gael adborth gwerthfawr. Byddwn yn rhannu unrhyw gyfleoedd i ymgysylltu yma ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Canfyddwch ffyrdd eraill i ymgysylltu gyda’r RCSLT yn ehangach ar y dudalen cymryd rhan.

Ymatebion a phapurau gwybodaeth

Read this page in English.

Plant a phobl ifanc

Newyddenedigol
Blynyddoedd cynnar
Plant sy’n derbyn gofal
Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Gwasanaethau Niwroddatblygiadol
Iechyd meddwl cymdeithasol emosiynol
Cyfiawnder

Oedolion

Dementia
Iechyd meddwl
Gweithlu

Polisi cyffredinol iechyd a gofal cymdeithasol

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Taflenni ffeithiau RCSLT Cymru

Communication Access UK (CAUK)

Mae Communication Access UK yn gynllun a ddatblygwyd mewn partneriaeth gan elusennau a sefydliadau sy’n rhannu gweledigaeth i wella bywydau pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu. Dan arweiniad y Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith, gyda’n gilydd rydym wedi datblygu Symbol Mynediad Cyfathrebu, symbol mynediad anabledd newydd gyda phecyn hyfforddiant a safonau hollol rad ac am ddim. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu unigolion a busnesau neu sefydliadau i roi cefnogaeth well i bobl gydag anawsterau cyfathrebu.

Mae CAUK yn flaenoriaeth i’n swyddfa. Mae ein ffocws ar hyn o bryd ar fersiwn Cymraeg o’r cynllun. .

Ar bwy ddylwn i geisio dylanwadu yng Nghymru?

Read this page in English.

Mae’r rhanddeiliaid allanol yng Nghymru y gallwch geisio dylanwadu arnynt yn cynnwys:

Adnoddau

1  of  3