Mae therapi lleferydd ac iaith yn broffesiwn cyffrous a hyblyg gyda llawer o lwybrau gyrfa a meysydd clinigol. Edrychwch os y gallai fod yr yrfa iawn i chi.

Ddarllenwych yn Seasneg

Byddwch yn cael cyfle i weithio gyda phobl o bob oed sydd ag anawsterau cyfathrebu a llyncu. P’un ai yw hynny yn helpu oedolyn a gafodd strôc i ddechrau siarad eto, neu helpu babanod a anwyd yn gynnar gyda phroblemau bwydo a llyncu, mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r bobl y gweithiant gyda nhw. Yn ystod pandemig COVID-19, bu gan therapyddion lleferydd ac iaith rôl hanfodol mewn adsefydlu a chefnogi cleifion a fu â COVID-19. Dysgwch fwy am rôl therapyddion lleferydd ac iaith yn ystod y pandemig.

 

Gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Gallech gefnogi plant a phobl ifanc gyda:

 

  • Oedi mewn datblygiad
  • Gwefus a thaflod hollt
  • Colli clyw
  • Anableddau dysgu
  • Anhwylder mewn datblygu iaith
  • Atal dweud
  • ADHD ac awtistiaeth
  • Anaf i’r ymennydd
  • Mudandod dethol
  • Problemau iechyd meddwl
  • Anhwylder sain lleferydd

Hoffech chi wybod mwy am waith therapyddion lleferydd ac iaith pediatrig? Edrychwch ar y fideo hwn am Lucy, myfyriwr therapi lleferydd ac iaith, a’r straeon fideo hyn gan Vanessa a Shafaq.

 

Gweithio gydag oedolion

Gallech gefnogi oedolion gyda:

  • Sglerosis ymledol
  • Clefyd niwronau motor
  • Anaf i’r ymennydd
  • Colli clyw
  • Anableddau dysgu
  • Clefyd Parkinson
  • Strôc
  • Awtistiaeth
  • Atal dweud
  • Canser y pen a’r gwddf
  • Problemau iechyd meddwl
  • Dementia

Hoffech chi wybod mwy am waith therapyddion lleferydd ac iaith oedolion? Edrychwch ar y fideo hwn am Claire, therapydd lleferydd ac iaith yn gweithio mewn ysbyty, ac edrych ar y straeon fideo hyn gan Ilyeh a Jackie.

Gallech hyd yn oed fynd ymlaen i ddod yn ddarlithydd prifysgol.

Hoffech chi wybod am lwybr gyrfa academaidd? Edrychwch ar stori fideo Sean, a chlywed gan y tîm cwrs therapi lleferydd ac iaith ym Mhrifysgol Leeds Beckett pam y dymunent ddod yn therapyddion lleferydd ac iaith.

 

Lle mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio?

Nid oes y fath beth â diwrnod nodweddiadol ar gyfer therapydd lleferydd ac iaith. Gallech weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth neu fel ymarferydd preifat mewn nifer fawr o leoliadau, tebyg i:

  • Ysbytai mewn gofal argyfwng, gofal aciwt a chleifion allanol
  • Ysgolion
  • Carchardai
  • Unedau diogel
  • Canolfannau datblygu plant
  • Cartrefi gofal
  • Meithrinfeydd
  • Eich busnes therapi lleferydd ac iaith eich hunan
  • Canolfannau dydd ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu
  • Clinigau cymunedol
  • Cartrefi cleientiaid

 

Mae amrywiaeth eang o rolau y gallech eu gwneud yn y lleoliadau hyn. Gallech:

  • Helpu claf a gafodd strôc i ddechrau siarad eto
  • Helpu babi sy’n cael trafferth bwydo i ddysgu sut i lyncu.
  • Helpu person gyda chlefyd niwron motor i siarad drwy offer cymorth cyfathrebu.
  • Cefnogi teuluoedd i gyfathrebu gydag aelod o’r teulu a gafodd anaf trawmatig i’r ymennydd.
  • Helpu rhywun gyda chyflwr iechyd meddwl fel sgitsoffrenia i ddeall beth sy’n digwydd iddynt.
  • Asesu a chefnogi troseddwr ifanc i gael mynediad i therapïau siarad i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r system cyfiawnder.
  • Darparu hyfforddiant i staff mewn cartref preswyl i gefnogi cyfathrebu mewn unigolion gydag anabledd dysgu.
  • Cefnogi rhywun aneiriol wrth wneud dewisiadau ystyrlon sy’n effeithio ar eu bywydau, o benderfynu beth maent eisiau ei wisgo i ble maent eisiau mynd
  • Helpu person ifanc gydag awtistiaeth i ddatblygu’r sgiliau i ffurfio cyfeillgarwch yn yr ysgol.

Eisiau gwybod mwy am ddiwrnod ym mywyd therapydd lleferydd ac iaith?

Edrychwch ar y  ffilm realaeth rithiol gan Health Education England (HEE). Wedi’i greu gyda mewnbwn gan therapyddion lleferydd ac iaith a’r RCSLT, mae’r fideo yn rhoi sylw i ystod dda o leoliadau a defnyddwyr gwasanaeth i roi cipolwg byw ar y proffesiwn. Cafodd ei ffilmio cyn a hefyd yn ystod pandemig COVID-19.

Gellir gweld y fideo gyda neu heb glustffonau realaeth rithiol.

Os oes gennych ychydig mwy o amser, edrychwch ar y drafodaeth panel ar yrfa mewn therapi lleferydd ac iaith

Yn dal heb fod yn siŵr fod therapi lleferydd ac iaith ar eich cyfer chi?

Gofynnwch i chi’ch hunan os ydych yn mwynhau:

  • Gweithio gyda phobl o bob oed ac o bob cefndir
  • Dod â gwyddoniaeth, addysg, gwyddorau cymdeithasol, ieithoedd, ieithyddiaeth a meddygaeth ynghyd
  • Gweithio fel rhan o dîm
  • Gwrando a chyfathrebu gyda phobl
  • Datrys problemau
  • Bod yn gyfrifol ac atebol am eich gwaith
  • Dysgu pethau newydd drwy’r amser a bod yn greadigol
  • Arwain tîm

Os gwnaethoch ateb ‘ydw’ i unrhyw un o’r uchod, gallai therapi lleferydd ac iaith fod i’r dim i chi.

Ymchwilio llwybrau i therapi lleferydd ac iaith

Graddau prifysgol

Canfod sut i astudio cwrs mewn prifysgol

Prentisiaethau

Canfod os yw prentisiaeth yn iawn i chi

Gwneud cais am radd

Canfod ein cynghorion ar wneud cais i brifysgol