Ystyried gwneud gradd therapi lleferydd ac iaith yn y brifysgol? Darllenwch am y cyrsiau sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig a sut i gyllido eich astudiaethau.

Ddarllenwch yn Saesneg

Caiff teitl therapydd lleferydd ac iaith ei ddiogelu yn y Deyrnas Unedig, felly mae’n rhaid i chi gwblhau cwrs cofrestredig, lefel gradd gydag achrediad i ymarfer fel therapydd lleferydd ac iaith. Gall hyn fod yn y brifysgol neu fel rhan o brentisiaeth (Lloegr yn unig).

Gellir cwblhau cyrsiau lefel gradd mewn prifysgol naill ai ar lefel israddedig (BSc Anrh) neu ôl-raddedig (PGDip neu MSc).

Y prif wahaniaethau a gofynion pob un yw:

  • Israddedig (BSc) – angen pasiau lefel A mewn gwahanol bynciau. Caiff y rhain eu gosod gan brifysgolion unigol ond fel arfer derbynnir pynciau fel ieithoedd (yn cynnwys Cymraeg neu Saesneg), bioleg, seicoleg neu wyddorau.
  • Ôl-raddedig (PGDip neu MSc) – angen cymhwyster gradd flaenorol mewn pwnc cysylltiedig (holwch y prifysgolion unigol) fel arfer yn radd gwyddoniaeth, iaith neu seicoleg. Fel arfer bydd angen i chi fod wedi ennill gradd heb fod yn is na 2:1 yn eich gradd flaenorol i gael eich derbyn.

Mae cyrsiau israddedig yn cymryd rhwng 3-4 blynedd i’w cwblhau yn dibynnu pa brifysgol a ddewisir.

Mae cyrsiau ôl-raddedig yn cymryd tua 2 flynedd i’w cwblhau fel arfer.

Ar ôl cwblhau cwrs yn llwyddiannus, gallwch wneud cais i’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) i gofrestru i ymarfer fel therapydd lleferydd ac iaith yn y Deyrnas Unedig ac i ddefnyddio’r teitl a ddiogelwyd.

Os ydych yn ansicr pa lwybr fyddai orau i chi, cysylltwch â’r prifysgolion unigol fydd yn hapus i drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae’r RCSLT yn ymroddedig i gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth ar draws y proffesiwn. Darllenwch ein datganiad ar y ffyrdd y mae’r proffesiwn therapi lleferydd ac iaith yn ymwreiddio cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth i bob cam o raddau therapi lleferydd ac iaith.

Ar hyn o bryd mae 19 prifysgol yn cynnig cyrsiau lleferydd ac iaith gydag achrediad ar draws y Deyrnas Unedig, felly gallwch ddewis lle i astudio sy’n gweddu i chi.

Defnyddiwch ein map rhyngweithiol i ganfod prifysgolion sy’n cynnig cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau meistr gydag achrediad.

Cafodd y rhaglenni hyn eu cymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a’u hachredu gan y RCSLT.

Cliciwch ar bin lleoliad y brifysgol a manylion y brifysgol. Bydd eu rhaglenni wedyn yn ymddangos mewn blwch neidio-allan.

Gallwch hidlo yn ôl dull cyflenwi. Er enghraifft, astudiaeth ran-amser neu lawn-amser, neu lefel israddedig neu ôl-raddedig.

Gallwch hefyd weld rhestr o gyrsiau sy’n cynnig rhaglenni gydag achrediad  neu lawrlwytho’r rhestr fel PDF.

Caiff Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru ei ddarparu gan Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr. Yn ogystal â ffioedd hyfforddiant, mae Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru yn cynnwys bwrsariaeth ar gyfer costau byw:

  • grant £1,000 heb brawf modd
  • bwrsariaeth gyda phrawf modd

Caiff myfyrwyr hefyd eu cefnogi ar gyfer costau tebyg i:

  • teithio
  • llety (tra ar leoliad)
  • gofal plant
  • lwfans myfyrwyr anabl
  • lwfans dibynyddion
  • lwfans dysgu rhieni

Ewch i wefan GIG Cymru neu ffonio 029 2090 5380 i gael mwy o wybodaeth.

Ewch i dudalennau cyllid myfyrwyr GOV.UK i gael gwybodaeth sylfaenol am gyllid myfyrwyr yn Lloegr.

Mae’r canllawiau yn The Funding Clinic  yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl am y benthyciadau myfyrwyr yn Lloegr, yn cynnwys y trefniadau arbennig ar gyfer benthyciadau i fyfyrwyr ôl-raddedig ar gyrsiau gofal iechyd.

Gall myfyrwyr a gymerodd benthyciad myfyriwr gael mynediad i fenthyciad arall i astudio’r cyrsiau hyn. Nid benthyciad arferol myfyrwyr ôl raddedig yw hyn ond y benthyciad sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig i dalu am ffioedd dysgu a chefnogi costau byw.

Ym mis Rhagfyr 2019 cyhoeddodd y Llywodraeth, yn ychwanegol at gefnogaeth bresennol i fyfyrwyr, o fis Medi 2020 bydd myfyrwyr sy’n astudio nyrsio, bydwreigiaeth a phynciau perthynol ag iechyd yn derbyn grant heb fod yn ad-daladwy a heb brawf modd o £5,000 y flwyddyn o leiaf.

Rydym wedi cadarnhau y bydd y cyllid hwn ar gael i fyfyrwyr therapi lleferydd ac iaith. Cynigir cyllid i fyfyrwyr presennol yn ogystal â myfyrwyr sy’n dechau ar y cwrs.

Bydd cyllid ychwanegol ar gael i ddenu myfyrwyr i’r pynciau blaenoriaeth uchaf yn seiliedig ar asesiad y Llywodraeth o fregusrwydd a blaenoriaethau gweithlu.

Hefyd bydd cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer gofal plant ac i gefnogi bregusrwydd rhanbarthol. Gallai cyfanswm cyllid ychwanegol fod yn gymaint â £3,000 y flwyddyn ar gyfer rhai myfyrwyr.

Canllawiau defnyddiol

Yn yr Alban caiff myfyrwyr eu cefnogi dan y system cyllid cyffredinol a gallant wneud cais am fwrsariaethau a benthyciadau yn dibynnu ar statws ac incwm.

Mae lwfansau ychwanegol ar gael yn dibynnu ar amgylchiadau tebyg i:

  • grantiau dibynyddion ar gyfer gofalwyr
  • grant rhieni unigol
  • lwfans myfyrwyr anabl

Gallwch hefyd hawlio costau teithio a llety ar gyfer lleoliadau.

Ewch i wefan Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban (SAAS)  neu ffonio 0300 555 0505 i gael mwy o wybodaeth.

Canllawiau defnyddiol

Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi byw yng Ngogledd Iwerddon am y tair blynedd ddiwethaf, bydd yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn talu ffioedd dysgu yn uniongyrchol i’r brifysgol. Gall myfyrwyr wneud cais am fwrsariaeth seiliedig ar incwm i helpu gyda chostau byw a gallant hefyd fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad ar gyfradd ostyngedig heb fod yn seiliedig ar incwm.

Gall myfyrwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sydd fel arfer yn byw ac yn astudio yng Ngogledd Iwerddon hefyd fod yn gymwys am gymorth ariannol. Bydd swm y fwrsariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr yn dibynnu ar incwm unigolyn a theulu.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â NI Direct ar 028 902 577 77 neu ymweld â:

The Funding Clinic: Astudio yng Ngogledd Iwerddon

1  of  6

Cynnwys cysylltiedig

Gwneud cais i brifysgol

Cyngor da ar gyfer eich cais

Prentisiaethau

Canfod os yw prentisiaeth yn iawn i chi.