Polisi Cymru

Tîm polisi a materion cyhoeddus Cymru

Read this page in English.

Wedi’i rymuso gan arbenigedd aelodau, mae tîm Polisi a Materion Cyhoeddus RCSLT Cymru yn anelu i sicrhau sedd i chi wrth y bwrdd uchaf, yn dylanwadu ar Weinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau o’r Senedd a gweision sifil.

Rydym yn meithrin perthynas gydag Aelodau o’r Senedd, Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol i newid deddfwriaeth a pholisi.

Ymgyrchwn dros fywydau gwell ar gyfer pobl sydd ag anghenion cyfathrebu a llyncu, yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a sefydliadau defnyddwyr gwasanaeth.

Cefnogwn chi i ddylanwadu’n lleol, gan roi cyngor strategol ac adnoddau ymarferol i chi.

  • Pippa Cotterill – Pennaeth Swyddfa Cymru (dyddiau gwaith – dyddiau Llun)
  • Caroline Walters – Rheolwr Materion Allanol (dyddiau gwaith – dyddiau Llun, Mawrth, Mercher a Gwener)
  • Naila Noori – Swyddog Materion Allanol (dyddiau gwaith – dyddiau Llun i Iau)

Cysylltwch â ni

3ydd llawr, Tŷ Trafnidiaeth, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SB

Ffôn:

Caroline Walters – 029 2002 5585

Naila Noori – 029 2002 5583

E-bost: walesoffice@rcslt.org.uk

Dilynwch @RCSLTWales a @RCSLTpolicy ar Twitter i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Blaenoriaethau ein swyddfa

Ein blaenoriaethau ar gyfer 2024-25:

  • Paratoi ar gyfer Etholiadau’r Senedd yn 2026
  • Gweithlu gan gynnwys ehangu mynediad i’r proffesiwn
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gofal yn nes at y Cartref
  • Cyfiawnder ieuenctid a’r agenda ataliol
  • Communication Access UK – Fersiwn Gymraeg
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyfleoedd i ymgysylltu

Lleisiwch eich barn ar strategaeth ddementia newydd Llywodraeth Cymru 2026–2036!

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar strategaeth newydd ar gyfer dementia ac rydym yn awyddus i rannu barn y proffesiwn. Cwblhewch y holiadur atodedig a’i ddychwelyd at caroline.walters@rcslt.org erbyn dydd Gwener 20 Mawrth er mwyn cefnogi ein hateb.

Ymatebion a phapurau gwybodaeth

Read this page in English.

Adroddiad Cyflwr y Genedl

Etholiad y Senedd yn 2026

Plant a phobl ifanc

Dlodi plant
Newyddenedigol
Anhwylder Datblygu Iaith
Blynyddoedd cynnar
Plant sy’n derbyn gofal
Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Gwasanaethau Niwroddatblygiadol
Iechyd meddwl cymdeithasol emosiynol
Cyfiawnder

Oedolion

Dementia
Cyflogaeth
Iechyd meddwl
Gweithlu
Gofal sylfaenol

Polisi cyffredinol iechyd a gofal cymdeithasol

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Pherthyn

Taflenni ffeithiau RCSLT Cymru

Communication Access UK (CAUK)

Mae Communication Access UK yn gynllun a ddatblygwyd mewn partneriaeth gan elusennau a sefydliadau sy’n rhannu gweledigaeth i wella bywydau pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu. Dan arweiniad y Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith, gyda’n gilydd rydym wedi datblygu Symbol Mynediad Cyfathrebu, symbol mynediad anabledd newydd gyda phecyn hyfforddiant a safonau hollol rad ac am ddim. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu unigolion a busnesau neu sefydliadau i roi cefnogaeth well i bobl gydag anawsterau cyfathrebu.

Mae CAUK yn flaenoriaeth i’n swyddfa. Mae ein ffocws ar hyn o bryd ar fersiwn Cymraeg o’r cynllun. .

Ar bwy ddylwn i geisio dylanwadu yng Nghymru?

Read this page in English.

Mae’r rhanddeiliaid allanol yng Nghymru y gallwch geisio dylanwadu arnynt yn cynnwys:

Adnoddau